Wel Iesu garaf yn ddilai,
Efe a'm gwared i o'm gwae;
Fy Mhriod hynod yw o hyd,
A'm cyfaill goreu yn y byd.
Doed fel y dêl, mi a'i cara o hyd,
Dan bob rhyw drallod yn y byd,
Yn nydd y farn, yn angeu chwith
Mi a'i caraf yn y nefoedd byth.
Pan syrthio'r sêr fel ffigys îr,
Pan ferwo'r môr, pan losgo'r tir;
Pan droir yr haul,
a'r lloer yn ddu,
Pryd hyn mi gara Mhrynwr cu.
Tra caffwyf rodio'r ddaear hon,
Rho'th hedd fel afon
dan fy mron;
Ac yn y diwedd moes dy law,
I'm ledio i mewn i'r nefoedd draw.
William Williams 1717-91
[Mesur: MH 8888] gwelir: Nid oes un gwrthrych yn y byd |
Now Jesus I shall love for sure,
'Tis he who delivered me from my woe;
My remarkable Spouse he is always,
And my best friend in the world.
Come what may, I shall love him always,
Under every kind of trouble in the world,
In the day of judgment, in awkward death,
I shall love him in heaven forever.
When the stars fall like fresh figs,
When the sea boils, when the land burns;
When the sun and the moon
are turned black,
Then I shall love my dear Redeemer.
While I get to walk this earth,
Give thy peace like a river
under my breast;
And at the end give thy hand,
To lead me into heaven yonder.
tr. 2022 Richard B Gillion
|
|